Thursday 2 February 2012

Cwestiwn ac Ateb gydag Nigel Owens - Nigel Owens Question and Answer

Mae Nigel Owens wedi tyfu i fod yn un o ffigyrau amlycaf y gem yma yng Nghymru, ar y cae yn ogystal ac oddi ar y cae. Nid yn unig y mae'n cael ei gyfrif ymysg prif ddyfarnwyr y Byd, ond mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yma yng Nghymru, gan ymddangos ar raglenni poblogaidd fel 'Noson Lawen' a 'Jonathan'.

Gyda un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn o'i flaen, gyda cystadleuaeth y Chwe Gwlad ar y gweill, fe gymrodd Nigel ychydig o'i amser rhydd i ateb ychydig o gwestiynnau gan Bachu Sylw:


1. Sut esdi ati i gychwyn dyfarnu?

Fe wnes i ddyfarnu am y tro cyntaf pan oeddwn i yn yr ysgol. Oeddwn i yn helpu mas gyda dyfarnu gemau rhwng y gwahanol lysoedd ar gyfer blwyddyn 7 i ddechrau. Ond, fe wnaeth yr ysgol rhoi poster gan Undeb Rygbi Cymru lan yn yr ysgol, oedd yn dweud fod nhw yn chwilio am fwy o ddyfarnwyr, felly wnaeth popeth gychwyn o fana.

2. Ti'n amlwg iawn am siarad Cymraeg ar y cae gyda'r chwaraewyr ti'n ddyfarnu. Wyt ti'n credu fod hi'n bwysig fod plant yn gweld eu harwyr yn cyfarthrebu yn Gymraeg ar y cae?

Ydi, dwi'n meddwl fod hi'n bwysig, ond fel rwy wedi dweud o'r blaen, dwi ddim yn siarad Cymraeg er mwyn gwneud pwynt. Dwi'n siarad Cymraeg gan ei fod o'n iaith gyntaf i mi, ac yn dod yn naturiol i mi. Dwi'n ceisio defnyddio'r iaith pob cyfle sydd yn bosib. Os oes chwaraewr sydd yn gallu siarad Cymraeg, dwi'n siarad Cymraeg 'da nhw, os ddim, fi'n siarad Saesneg.

3. Ti'n adnabyddus am wneud llawer o waith fel dyddanwr oddi ar y cae, ond ai dyfarnu ta diddanu wyt ti'n ei fwynhau fwyaf?

Dwi'n mwynhau gwneud y ddau. Mae nhw'n debyg iawn i'w gilydd i raddau. Mae bod yn ddyfarnwr yn debyg iawn i berfformio ar lwyfan. Ond eto, mae yna wahaniaeth mawr. Mae dyfarnu, erbyn hyn, yn swydd i mi, felly mae hi'n neis gwneud rhywbeth gwahanol yn fy amser rhydd. Dwi'n gweld y gwaith diddanu yn switch off o fy swydd - a roedd o'n rhywbeth oni wedi cychwyn wneud yn ifanc - rhyw 3-4 blynedd cyn i mi ddechrau dyfarnu.

4. Mae rhan o'r swydd yn golygu bod ti'n ganolbwynt i lawer o stick. Sut wyt ti'n mynd ati i ddelio yn seicalegol gyda unrhyw stick ti'n dderbyn?

Dwi'n credu fod delio gyda hyn ynddoch chi fel dyfarnwr. Rydych chi'n datblygu i ddod yn gyfarwydd gyda hyn ac yn dysgu sut i ddelio gydag o. Dyw pawb ddim yn gallu ei wneud o. Mae o'n rhan o'n personoliaeth ni. Mae o hefyd yn rhan o beth sy'n gwneud chi'n ddyfarnwr da - sef peidio gadael iddo effeithio chi.

5. Sut brofiad mae hi wedi bod i fod yn rhan o dim cyflwyno Jonathan?

Mae hi wedi bod yn gret. Mae'n gyfle, fel ddywedais gyne', i wneud rhywbeth ar wahan i ddyfarnu. Dwi'n mwynhau y gwaith. Pan i chi'n gwneud swydd ac yn canolbwyntio arno bob diwrnod, dydych chi ddim moyn meddwl amdano yn y nos, yn eich amser rhydd, felly mae hi'n neis cael hwyl wrth wneud hyn.

6.Wyt ti'n teimlo fod rygbi yn datblygu i fod yn fwy agored a derbyniol o ran ffigyrau hoyw yn y gem?

Mae hi'n anodd dweud, ond yn sicr mae'n cael ei dderbyn yn fwy nag mewn chwaraeon eraill, fel pel-droed. Does neb wedi dod allan yn gyhoeddus yn y gem yna oherwydd yr ofn, felly mae hi'n anodd dweud sut mae pobl am ddelio gyda'r peth. Mae rygbi i weld yn gymuned fwy clos ar y cyfan, lle mae'r cefnogwyr yn eistedd gyda'u gilydd, sydd yn dweud lot am gyfeillgarwch y bobl sydd yn gwylio'r gem.

7. Pa mor agos ydy dyfarnwyr fel ffrindiau oddi ar y cae?

  Ydy, fel pob awyrgylch gwaith, mae rhai sydd yn dod ymlaen efo'i gilydd, tra mae rhai eraill ddim yn gweld llygaid i lygaid, yn union fel y chwaraewyr. Ond, dwi'n gweld fod dyfarnwyr yn glos iawn oherwydd y math o swydd rydym ni'n wneud - rydych chi ar ben eich hunain ar y cae. Gan fod chi ar ben eich hunain, mae llawer o bobl, petai nhw'r chwaraewyr neu'r dorf, am anghytuno gyda'r hyn sydd 'da chi ddweud, felly rydym ni i weld yn sticio gyda'n gilydd. Fi ffodus i ddod ymlaen y dda gyda pawb, yng rhyngwladol ac yn lleol, ond mae rhai o'r lleill yn dod ymlaen yn well 'da rhai nag eraill

Diolch am y sgwrs Nigel a phob lwc ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad


Wednesday 1 February 2012

Martynn Williams Q&A - Ar ran Golwg a'r Gleision / On behalf of Golwg & Blues

Cwestiynnau Cyflym
1.       Gwrthwynebwr Anoddaf? Richie McCaw
2.       Hoff stadiwm oddi-cartref? Stade De France ym Mharis.
3.       Hoff anthem oddi-cartref? Ffrainc unwaith eto dwi’n credu.
4.       Cais fwyaf cofiadwy? Yn erbyn Ffrainc yn 2008, i gipio’r gamp lawn.
5.       Hoff berson i rannu ystafell gyda nhw? Andy Powell
6.       Cas berson i rannu ystafell gyda nhw? Gareth ‘Alfie’ Thomas – mae o’n lot rhy flêr!
7.       Gem fwyaf cofiadwy? Yn erbyn Iwerddon yn 2005 i gipio’r Gamp Lawn gyntaf.
8.       Pwy wyt ti’n rhagweld fydd chwaraewr y gystadleuaeth yn y Chwe Gwlad tymor yma? Toby Faletau
9.       Arwr rygbi yn blentyn? Michael Jones, blaeasgellwr Seland Newydd.
10.   Uchafbwynt dy Yrfa? Heb os nac oni bai, ennill y ddau Gamp Lawn yn 2005 a 2008.
11.   Beth fyddai dy yrfa di os nad yn chwarae rygbi? Cwestiwn anodd...Gweithio rhywle yn y ddinas siwr o fod.

 ______________________________________________________________________________________
12.   Mae llawer o chwaraewyr ifanc ac addawol yn y garfan genedlaethol erbyn hyn, pwy wyt ti’n edrych ymlaen i’w weld yn ystod y Chwe Gwlad?
Yn amlwg dwi’n edrych ymlaen i weld y chwaraewyr wnaeth sefydlu eu hunain yng Nghwpan y Byd, chwaraewyr fel Toby Faletau a gweddill y bois. Ond bydd hi’n ddiddorol gweld pwy fydd yn cymryd drosodd ar yr asgell yn lle Shane. Gobeithio geith Alex [Cuthbert] gyfle. Ond mae hi’n wastad yn dda cael dewis mor eang o hogiau ifanc fel sydd gennym ni.
13.   Ers i ti gychwyn chwarae rygbi, mae rygbi wedi gweld lot o newidiadau ar y cae, yn ogystal ag oddi ar y cae. Un peth sydd yn amlwg yw mwy o sylw yn y wasg – ydi hyn yn beth da neu drwg i’r gem?
Mae e mond yn beth da fod rygbi yn mynd yn fwy a fwy poblogaidd pob blwyddyn. Mae lot o dimoedd da yn cystadlu nawr a mae’n beth da i’r bois. Mae lot o bethau wedi newid ers i fi gychwyn fy ngyrfa. Yn amlwg mae rygbi wastad am fod yn ail i bel-droed , ond o leiaf mae mwy o ddiddordeb yn y gem ar y cyfan.
14.   Mae gan y Gleision lawer o ddyfnder yn y garfan, ond yn amlwg gyda’r Chwe Gwlad yn dod fyny, bydd llawer o’r chwaraewyr allweddol i ffwrdd gyda’r tim cenedlaethol, wyt ti’n meddwl dylia’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol feddwl am newid amserlen y cystadleuthau?
Ydw, dwi’n meddwl fod ti’n gywir yn fana. Mae llawer mwy o strwythr yn Hemisffer y De, gyda cystadleuaeth y Super 15 yn cael ei ddilyn gan y Tri Gwlad a wedyn mae nhw’n dod draw ar daith i fan hyn. Ond gyda ni mae gennym ni Gwpan Heineken yn fama, Cynghrair Rabo Direct yn fan draw a’r Chwe Gwlad yn cael ei daflu mewn yn y canol. Ond yn amlwg bydd hi’n anodd newid, gan fod y Chwe Gwlad wedi sefydlu y draddodiadol i’r cyfnod yma. Ond byddai hi’n dda petai nhw yn medru newid popeth fel mae Rygbi’r Gynghrair wedi ei wneud gyda rygbi yn yr Haf – wedyn mae pawb yn chwarae eu tymhorau yr un pryd a gorffwys i bawb yr un pryd. Felly, yn sicr, dylia nhw edrych arno.
15.   A tithau ar 99 o gapiau, dwi’n cymryd dy fod ti dal ar gael ar gyfer cael dy ddewis?
Wel, ydw dwi ar gael, ond dwi’n gwybod fyddai’m yn chwarae drostyn nhw eto. Dwi wedi cael rhediad da. Mae gymaint o chwaraewyr rheng-ôl ifanc ac addawol, felly dwi’n canolbwyntio ar fwynhau fy ychydig fisoedd olaf yn y gem.
16.   Ti wedi aros gyda dy glwb lleol pan fo’n bosib, ond mae mwy a mwy o chwaraewyr ifanc Cymru yn symyd dramor i Ffrainc yn ddiweddar, be ti’n feddwl o hyn?
Mae’n yrfa byr, a mae rhai o’r ffigyrau sy’n cael eu taflu tuag at y bois yn anhygoel erbyn hyn. Fel mae hi am fod, ti wastad am golli un neu ddau o chwaraewyr, ond os ydyn ni’n llwyddo i gadw’r mwyafrif yma, dylia hi ddim fod yn broblem i ni.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

Quickfire Round
1.       Toughest Opposition? Richie McCaw
2.       Best Away Stadium? Stade De France, Paris
3.       Best Away Anthem? La Marseillaise, France
4.       Most memorable try? Against France in 2008, to win the Grand Slam
5.       Favourite international room-mate? Andy Powell
6.       Worst international room-mate? Gareth ‘Alfie’ Thomas – he’s too messy!
7.       Most memorable game? Against Ireland back in 2005, to win the first Grand Slam
8.       Who do you predict will be the Player of the Tournament in this year’s Six Nations? Toby Faletau
9.       Rugby hero as a child? Michael Jones, New Zealand flanker
10.   Highlight of your career? Without any doubt, winning both Grand Slams in 2005 and 2008
11.   What would you be doing if you weren’t playing rugby? Tough question…working in the city probably.
__________________________________________________________________________________ 

12.   There are a lot of young and promising players in the national squad, who are you most looking forward to see during the Six Nations?
Obviously I look forward to see the players who established themselves in the World Cup, players such as Toby Faletau and the rest of the boys. But it will be interesting to see who will take the place of Shane on the wing. I hope Alex Cuthbert gets his chance, but it is always nice to have so much young players as we have.
13.   Since you started your career, rugby has changed a lot, with a lot more publicity from the press – is this a good thing or a bad thing?
It can only be good that rugby is developing to be more and more popular every year. There are a lot of good teams coming up and competing which is a good thing for the boys. There are a lot that have changed since I’ve started playing. Obviously rugby is always going to play second fiddle to football, but it’s good that the interest is growing.
14.   The Blues have a lot of strength in depth in their squad, but obviously with the Six Nations coming up, you will lose a lot of key players. Do you believe, maybe, it’s time for the IRB to review the international schedule?
Definitely, you’re right there. There is a better structure in the Southern Hemisphere, with the Super 15 first, then they play the Tri Nations before coming over here for a tour. But here we have the Heineken here and there, the Rabo Direct here and there and the Six Nations is chucked in between. But obviously it would be hard to change, because the Six Nations has been set at that time since the amateur days. It would be good they could change everything to be like Rugby League with their summer rugby – everyone would then play their seasons alongside each other and have a break at the same time. So, certainly they should look at it.

15.   Yourself now still on 99 caps, I assume you’re still available for selection?
Yes I am available but I know I won’t play [for Wales] again – I’ve had a good run. There are so many good young back-row players coming up as well, so I’m just enjoying my last few months.
16.   You’ve stayed loyal to your local clubs, when it’s been possible, throughout your career, but more and more of the youngsters from Wales are moving to France recently, what are your views on this?
Listen, it’s a short career and some of the figures thrown at the boys is eye-watering by now. It’s always going to be like that, that you lose one or two players, but if we manage to keep the majority in Wales, it shouldn’t be a problem.