Monday 12 September 2011

Adolygiad: Pesda Roc 2011

Un o fy hoff atgofion fel plentyn oedd sefyll ar gae rygbi Bethesda a cael gweld un o fy hoff fandiau yn chwarae, sef Super Furry Animals. Er nad yw’n hollol glir yn fy meddwl, dwi’n dal i gofio mod i wedi gwirioni wrth glywed Gruff Rhys yn rocio i ‘Rings around the World’ – fy hoff gan ar y pryd, diolch i Dad!
 Felly, wrth gerdded lawr llwybrau llwch maes yr Eisteddfod blwyddyn yma, a dod ar draws poster Pesda Roc, yn dangos fod rhai o enwau mwya’r SRG yn chwarae o amgylch Bethesda am 4 diwrnod, roeddwn i wrth fy modd. Be gai well na hwyl, dathlu, cofio a cherddoriaeth da? Wrth gwrs, roedd rheswm dros yr wyl yn cael ei  chynnal, sef cofio a dathlu bywyd Les Morrison, yn ddadleuol un o ffigyrau mwyaf dylanwadol y SRG!
 Felly, dyma fi’n glanio yn Neuadd Ogwen ar y nos Iau. Unwaith oni ‘rioed ‘di bod yna o blaen – a hynny i weld  darlith am Un Nos Ola’ Leuad gan J Elwyn Hughes - felly, roedd gini deimlad cry’ bysa’ y noson yma yn tipyn gwahanol! Cowbois Rhos oedd yn cychwyn y nos – perffaith! Ar y cyfnod yma roedd y dorf i gyd yn eistedd, ac heb fod yn feirniadol o gwbwl, roedd cerddoriaeth CRB yn siwtio’r awyrgylch yn wych. Roedd o’n gyfla’ i fi gael gwrando yn iawn ar yr hogia o Benllyn, oherwydd dwi wedi dod i fwynhau nhw yn fwy ac yn fwy ers i fi glywed nhw ym Maes B Bala. Dwi’n teimlo fod y s?n “mwy” ma’ nhw ‘di datblygu yn wych, gan wneud iddyn nhw swnio’n fwy aeddfed ac yn mynd i newid meddwl pobl gul oedd yn arfar meddwl fod ‘country and western’ yn shit.
Y band nesaf i ddod i’r llwyfan oedd Y Niwl, a roedd ‘na deimlad o gynwrf wrth ddisgwl am y band i ddod i’r llwyfan, yn dilyn eu llwyddiannau â Football Focus. Dwi’n ffan mawr o’r band yma, a dwi’n teimlo fod nhw’n haeddu pob llwyddiant sy’n dod iddyn nhw o hyn ymlaen. Pan wnaethan nhw ddod i’r llwyfan, wnaeth rhyw 15 o bobol ruthro i’r lle dawnsio yn syth sy’n dangos fod nhw’n fand poblogaidd. Unwaith eto, cadw’n glir o’r microphone wnaeth aelodau’r band, a dwi’n licio hynny, achos mae’n wahanol. Mae’n cwl mewn ffordd, ac er fod o’n edrych fel fod nhw’m yn mynd i roi llawar o ymdrech i fewn i’r perfformiad, dyw’r swn ddim yn adlewyrchu huna.
Gruff Rhys oedd yn hedleinio’r noson. Dyma’r foment oni wedi edrych yn ôl arno o’r blaen, ac wedi edrych ymlaen amdano tro hwn – cael gweld y seren byd-enwog ar lwyfan bach mewn pentre’ sydd chwarter awr i ffwrdd o lle dwi’n byw. Erbyn hyn, roedd y lle dawnsio yn llawn pobol oedd eisiau clywed Gruff yn agos. Cychwyn ar ben ei hun wnaeth o, gyda set acwstig. Rhwng ambell i gan, roedd o’n talu teyrnged i Les gyda stori, oedd yn gwneud hi’n awyrgylch braf ac yn brofiad arbennig i fod yn rhan ohono.
Roedd y gig es i weld ar yr ail noson wedi ei anelu yn fwy at bobl ifanc fel fi! Neshi aros yn y Llangollen am hir, sef tafarn sy’ ‘di gweld mwy o gigs yn ddiweddar wrth i Dilwyn Llwyd, trefnydd Gwyl Gardd Goll a Pesda Roc, ddechrau trefnu gigs yno. Ond methu band Dilwyn neshi – am fy mod i ‘di aros yn y pyb rhy hir – gan gyrraedd just mewn pryd i weld can cyntaf Jen Jeniro. Dros yr Ha’, roeddwn i wedi gorfod adolygu EP newydd Jen Jeniro, sef Swimming Limbs (ar gael ar iTunes), i C2, ac wedi ei fwynhau yn arw. Felly roedd hi am fod yn ddiddorol clywed y fersiwn byw. Fel arfer, roedd JJ yn gerddoriaeth poppy a jolly i’w fwynhau, a oni ‘di mwynhau nhw ar y noson yma fwy nag oni wedi eu clywed nhw o’r blaen.
Yr Ods oedd yn hedleinio yn noson y tro hwn. Nhw ‘di fy hoff fand i ar hyn o bryd, a dwi’n mwynhau eu gweld nhw’n fyw achos dwi’n cael dod yn fwy a fwy cyfarwydd â’r caneuon bydd yn dod i fyny ar yr albwm hir-ddigwyliedig. Unwaith eto, roedd y band yn chwarae yn dynn gyda’u gilydd, sydd, gyda’r caneuon eu hunain, yn eu gwneud nhw’n fand mor dda. Ar un pwynt, nath Gruff Pritch hyd yn oed ddod mewn i ganol y gynilleidfa i chwarae. Ond prif siom y noson oedd fod y tefnwyr wedi cyfyngu yr amser oedda nhw’n cael chwarae i rhyw hanner awr, felly oedd ‘na ambell i hit ddim ‘di cael ei chwarae. Piti fod hynny ‘di rhoi ‘chydig o ddampnar ar lwmp o noson dda. Aros ym Methesda wnaethon ni y noson honno, ac y bore drannoeth, wrth gyrraedd adra wedi noson hwyr / bore cynnar, fy ngeiria ola’ cyn mynd i’ng ngwely oedd “No wê dwi’n mynd i Pesda heno.”
 Rhyw 7 awr yn ddiweddarach, roedd fy nghalon i’n gwibio o gynwrf wrth i mi sefyll, unwaith eto, tu allan i Neuadd Ogwen, yn barod am uwchafbwynt yr wsos. Yn anffodus roedd Geraint Jarman wedi tynnu allan – rhwyun oni ar biga’ drain i’w weld er mwyn cael dweud mod i wedi ei weld o – oherwydd rhesymau oedd tu allan i ddwylo pawb! Ond, doedd popeth ddim yn ddrwg. Roedd gini dal y cyfle i weld dau fand lleol yn ffurf Celt a Maffia Mr Huws. Dwi’n ffan mawr o albym @Com gan Celt, efo caneuon fel Bethlem a’r Groes, Un Wennol a Streets of Bethesda yn uwchafbwyntiau yr albwm yna. Oni ‘di gweld Celt yn chwarae yn Clwb Rygbi Caernarfon ychydig fisoedd yn ôl, ac er fod na’m lot yna, roedda nhw’n dal i chwarae fel bod nhw’n rili mwynhau. Ond tro ‘ma roedda’n nhw’n chwarae i gynilleidfa oedd wedi gwerthu allan, a roedd y perfformiad yn dangos hynny, wrth iddyn nhw gamu fyny i gear newydd, a pob un ohona nhw’n canu ac yn chwerthin ar y llwyfa. Da oedd gweld y dorf yn canu ymlaen hefo nhw ‘fyd. Ac er mod i ‘rioed wedi ei gyfarfod, dwi’n siwr y bysai Les wedi mwynhau hefyd.
  Maffia Mr Huws oedd i gloi yr wyl i mi yn bersonol. Dwi di clwad lot o ganmoliaeth am berfformiada’ byw Maffia, ac wrth fy modd efo y gan ‘Gitâr yn y To’, felly roedd cael gweld nhw yn fyw am y tro cyntaf yn eitha’ cyffrous. Roedd y perfformiad yma’n gwneud i’r noson diemlo fel noson deyrnged go iawn! Roedd gwesteion arbennig yn dod i ymuno â’r band, caneuon ‘covers’ yn cael eu canu a straeon yn cael eu adrodd. Roedd pawb oni wedi siarad gyda nhw yn dweud gymaint oedden nhw wedi mwynhau y noson, a bod awyrgylch arbennig i’r noson, fel nad oedden nhw ‘rioed ‘di deimlo o’r blaen.
  Felly roedd y tair noson yn deyrnged berffaith i Les, ond hefyd i safon cerddoriaeth Gymraeg yr ardal. Gobeithio y byddwn yn cael gweld Pesda Roc yn dychwelyd yn flynyddol o hyn ymlaen, oherwydd, o edrych ar raddfa lwyddiant yr ?yl y flwyddyn yma, bydd hi’n datblygu i fod yn un o brif wyliau Cymraeg yr Ha’

No comments:

Post a Comment