Thursday 2 February 2012

Cwestiwn ac Ateb gydag Nigel Owens - Nigel Owens Question and Answer

Mae Nigel Owens wedi tyfu i fod yn un o ffigyrau amlycaf y gem yma yng Nghymru, ar y cae yn ogystal ac oddi ar y cae. Nid yn unig y mae'n cael ei gyfrif ymysg prif ddyfarnwyr y Byd, ond mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yma yng Nghymru, gan ymddangos ar raglenni poblogaidd fel 'Noson Lawen' a 'Jonathan'.

Gyda un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn o'i flaen, gyda cystadleuaeth y Chwe Gwlad ar y gweill, fe gymrodd Nigel ychydig o'i amser rhydd i ateb ychydig o gwestiynnau gan Bachu Sylw:


1. Sut esdi ati i gychwyn dyfarnu?

Fe wnes i ddyfarnu am y tro cyntaf pan oeddwn i yn yr ysgol. Oeddwn i yn helpu mas gyda dyfarnu gemau rhwng y gwahanol lysoedd ar gyfer blwyddyn 7 i ddechrau. Ond, fe wnaeth yr ysgol rhoi poster gan Undeb Rygbi Cymru lan yn yr ysgol, oedd yn dweud fod nhw yn chwilio am fwy o ddyfarnwyr, felly wnaeth popeth gychwyn o fana.

2. Ti'n amlwg iawn am siarad Cymraeg ar y cae gyda'r chwaraewyr ti'n ddyfarnu. Wyt ti'n credu fod hi'n bwysig fod plant yn gweld eu harwyr yn cyfarthrebu yn Gymraeg ar y cae?

Ydi, dwi'n meddwl fod hi'n bwysig, ond fel rwy wedi dweud o'r blaen, dwi ddim yn siarad Cymraeg er mwyn gwneud pwynt. Dwi'n siarad Cymraeg gan ei fod o'n iaith gyntaf i mi, ac yn dod yn naturiol i mi. Dwi'n ceisio defnyddio'r iaith pob cyfle sydd yn bosib. Os oes chwaraewr sydd yn gallu siarad Cymraeg, dwi'n siarad Cymraeg 'da nhw, os ddim, fi'n siarad Saesneg.

3. Ti'n adnabyddus am wneud llawer o waith fel dyddanwr oddi ar y cae, ond ai dyfarnu ta diddanu wyt ti'n ei fwynhau fwyaf?

Dwi'n mwynhau gwneud y ddau. Mae nhw'n debyg iawn i'w gilydd i raddau. Mae bod yn ddyfarnwr yn debyg iawn i berfformio ar lwyfan. Ond eto, mae yna wahaniaeth mawr. Mae dyfarnu, erbyn hyn, yn swydd i mi, felly mae hi'n neis gwneud rhywbeth gwahanol yn fy amser rhydd. Dwi'n gweld y gwaith diddanu yn switch off o fy swydd - a roedd o'n rhywbeth oni wedi cychwyn wneud yn ifanc - rhyw 3-4 blynedd cyn i mi ddechrau dyfarnu.

4. Mae rhan o'r swydd yn golygu bod ti'n ganolbwynt i lawer o stick. Sut wyt ti'n mynd ati i ddelio yn seicalegol gyda unrhyw stick ti'n dderbyn?

Dwi'n credu fod delio gyda hyn ynddoch chi fel dyfarnwr. Rydych chi'n datblygu i ddod yn gyfarwydd gyda hyn ac yn dysgu sut i ddelio gydag o. Dyw pawb ddim yn gallu ei wneud o. Mae o'n rhan o'n personoliaeth ni. Mae o hefyd yn rhan o beth sy'n gwneud chi'n ddyfarnwr da - sef peidio gadael iddo effeithio chi.

5. Sut brofiad mae hi wedi bod i fod yn rhan o dim cyflwyno Jonathan?

Mae hi wedi bod yn gret. Mae'n gyfle, fel ddywedais gyne', i wneud rhywbeth ar wahan i ddyfarnu. Dwi'n mwynhau y gwaith. Pan i chi'n gwneud swydd ac yn canolbwyntio arno bob diwrnod, dydych chi ddim moyn meddwl amdano yn y nos, yn eich amser rhydd, felly mae hi'n neis cael hwyl wrth wneud hyn.

6.Wyt ti'n teimlo fod rygbi yn datblygu i fod yn fwy agored a derbyniol o ran ffigyrau hoyw yn y gem?

Mae hi'n anodd dweud, ond yn sicr mae'n cael ei dderbyn yn fwy nag mewn chwaraeon eraill, fel pel-droed. Does neb wedi dod allan yn gyhoeddus yn y gem yna oherwydd yr ofn, felly mae hi'n anodd dweud sut mae pobl am ddelio gyda'r peth. Mae rygbi i weld yn gymuned fwy clos ar y cyfan, lle mae'r cefnogwyr yn eistedd gyda'u gilydd, sydd yn dweud lot am gyfeillgarwch y bobl sydd yn gwylio'r gem.

7. Pa mor agos ydy dyfarnwyr fel ffrindiau oddi ar y cae?

  Ydy, fel pob awyrgylch gwaith, mae rhai sydd yn dod ymlaen efo'i gilydd, tra mae rhai eraill ddim yn gweld llygaid i lygaid, yn union fel y chwaraewyr. Ond, dwi'n gweld fod dyfarnwyr yn glos iawn oherwydd y math o swydd rydym ni'n wneud - rydych chi ar ben eich hunain ar y cae. Gan fod chi ar ben eich hunain, mae llawer o bobl, petai nhw'r chwaraewyr neu'r dorf, am anghytuno gyda'r hyn sydd 'da chi ddweud, felly rydym ni i weld yn sticio gyda'n gilydd. Fi ffodus i ddod ymlaen y dda gyda pawb, yng rhyngwladol ac yn lleol, ond mae rhai o'r lleill yn dod ymlaen yn well 'da rhai nag eraill

Diolch am y sgwrs Nigel a phob lwc ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad



Nigel Owens has grown to be one of the most famous figures in Welsh rugby, on the field as well as off the field. Not only is he being considered as one of the best referees in the World, but he is also regularly seen on Welsh TV programmes, such as 'Noson Lawen' and 'Jonathan'

With one of his busiest periods of the year coming up, as we prepare for the starts of the Six Nations campaign, Nigel took some of his time out to answer Bachu Sylw's questions:

1. How did you start refereeing?

I refereed for the first time at my school. I was helping out with an Year 7 competition between the different houses at the school. But, they also put a poster up at school, from the WRU, which stated that they were looking for new referees. So everything kicked off from there.

2. The fact that you speak Welsh on the field has been highlighted by the press. Do you believe it is important for children to see their heroes communicating on the field in Welsh?

Yes, I think it is important, but as I've said before, I'm not speaking Welsh in order to make a point. I speak Welsh because it is my first language, and it comes naturally to me. I try and use the language at any opportunity I get. If a player can speak Welsh, I'll speak Welsh with him, if not, I'll speak English with them. It's not a problem.

3. You are famous for doing a lot of work as an entertainer off the field, but is it refereeing or entertaining that you enjoy the most?

I enjoy both of them. They are simliar to each other, in a way, because refereeing is like being on a stage, as people are looking at your performance. But, yet again, there is a big difference. By now, refereeing is my job, so it is nice to have something totally different on the side in my free time. I see the entertaining as a way to switch off - but I started off very young with this - about 3-4 years before I started refereeing.

4. Part of your job is to take a lot of stick for your decision. How do you go about to cope psychologically with the stick you recieve?

I think it is in you as a person. You develop yourself to become used to this and learn how to deal with it. Not everyone can do this. But it is a part of our personality as referees. It is also a part of what makes you a good referee - where you won't allow it to affect you.

5. How has it been for you to be a part of the team that presents the Jonathan programme?

It's been great. It is a chance, as I said earlier, to do something that is seperate from refereeing. I enjoy the work. When you do a job and concentrate on it everyday, you do not whant to think about it in the night, so it is nice to have fun like this in my spare time.

6. Do you believe that rugby is developing to be more open and understanding on gay figures within the gay?

It's hard to say, but I do believe it is more open than other sports, such as football, where no one has come out as being gay in the game because of the abuse they think they'll be given. So it is hard to say how the fans will react until it happens. Rugby seems to be a closer community on the whole, with fans sitting with each other during the games, which says a lot about the personality of the fans.

7. How close are the referees as friends off the field?

Yes, as you get with every work atmosphere, some come on with each other better than others, exactly as you get with the players. But, I see that referees are close with each other because of the type of job we are in - we are on our own on the fied. As you are on your own, a lot of people, whether they are players or supporters, will disagree with your decisions, so we seem to stick with each other because of this. I'm fortunate enogu to get along with everyone, whether they are international or local referees, but some of the others get along better with some than others.

Thanks for taking your time with us Nigel and good luck for the Six Nations campaign.

No comments:

Post a Comment